SL(5)304 - Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn ategu, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2015/262 (Rheoliad yr UE) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer adnabod ceffylau, ac yn disodli Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009 (Rheoliadau 2009).

Mae Rhan 2 yn cynnwys darpariaethau sy’n nodi amrywiol ofynion gweinyddol a gweithdrefnol. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion mewn perthynas ag adnabod ceffylau a’r ddogfen adnabod mewn perthynas â cheffylau.

Mae Rhan 3 yn cynnwys eithriadau o ran ceffylau sy’n byw o dan amodau gwyllt neu lled-wyllt.

Mae Rhan 4 yn nodi amryw o droseddau o ran torri’r Rheoliadau hyn a Rheoliad yr UE.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau ynghylch gorfodi a chosbau, ac mae’n rhoi pwerau i arolygwyr a benodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi (awdurdod lleol).

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer cosbau sifil sydd ar gael i awdurdodau gorfodi.

Mae Rhan 7 yn dirymu Rheoliadau 2009.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 (v) (sydd angen eglurhad pellach ar ei ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol) mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Mae rheoliad 8 (yn Rhan 2 o’r Rheoliadau) yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog ofyn i’r corff sy’n ei gyhoeddi, i addasu neu ddiweddaru dogfen adnabod ceffyl, os yw’r person cyfrifol (y perchennog neu’r ceidwad) yn credu bod unrhyw fanylion adnabod yn nogfen adnabod y ceffyl angen ei addasu neu’i ddiweddaru. Mewn achosion lle nad yw’r person cyfrifol yn berchennog (ond y ceidwad), efallai y bydd potensial i berchennog beidio â bod yn ymwybodol o gred y ceidwad bod angen diwygio’r ddogfen adnabod. Nid yw Rheoliad 8 yn cynnwys gofyniad i’r person cyfrifol (lle mae hwn yn geidwad y ceffyl, ac nid yn berchennog) i roi gwybod i’r perchennog ei gred bod angen diwygio’r ddogfen adnabod. Mae rheoliad 22(1) yn darparu bod perchennog yn euog o dramgwydd os yw’r perchennog yn torri gwaharddiad, neu’n methu â chydymffurfio â gofyniad sy’n gymwys i berchennog, gan gynnwys o dan Ran 2.  O’r herwydd, mae potensial i berchennog gyflawni trosedd, a chael ei gosbi am y drosedd honno, hyd yn oed lle nad oedd y perchennog yn gwybod, ac efallai na allai fod wedi gwybod, bod angen diwygio dogfen adnabod y ceffyl.

Mae’r rheoliadau cyfatebol ar gyfer Lloegr, Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Lloegr) 2018 (Rheoliadau Lloegr), yn gwneud darpariaeth yn rheoliad 8 ar gyfer addasu manylion adnabod. Fodd bynnag, mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog ofyn i’r corff cyhoeddi addasu neu ddiweddaru’r ddogfen adnabod os yw’r "perchennog yn credu bod angen addasu neu ddiweddaru unrhyw fanylion adnabod sydd yn nogfen adnabod ceffyl". O’r herwydd, nid yw’r un mater yn bodoli yn y Rheoliadau yn Lloegr ag y nodir uchod o ran Cymru. O dan Reoliadau Lloegr, byddai perchennog yn cyflawni trosedd o ran peidio â chydymffurfio â rheoliad 8, dim ond pe na bai’n gofyn iddynt wneud newidiadau yr oedd ef o’r farn bod angen eu gwneud.

 

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac maent yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE" o dan adran 2 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, felly caiff y Rheoliadau hyn eu dargadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

30 Ionawr 2019